Dogfen Leoliadol Y Blaid Gomiwnyddol Gymreig.

Mae pwnc annibyniaeth wedi dod yn nodwedd o’r drafodaeth wleidyddol yn yr Alban ac yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf gyda dwy blaid sy’n uniaethu gyda rhyddid cenedlaethol yn ffurfio’r llywodraethau yng Nghymru a’r Alban fel ei gilydd. Fel ag y nodir yn y BRS – Y Llwybr Prydeinig i Sosialaeth – (2020) ‘os bydd pobol yr Alban neu Gymru yn mynegi ewyllys i ymwahanu o’r Deyrnas Gyfunol, bydd yn rhaid parchu eu dymuniad a hyrwyddo trafodaethau i gytuno termau’r ymwhaniad ar sail deg’.
Er hyn, nid yw ymwahaniad o’r DG ynddo’i hunan o angenrheidrwydd yn flaengar, nag efallai yn warant o annibyniaeth gwirioneddol, yn enwedig os yw’n golygu dibyniaeth ar agenda awtocrataidd, ryfelgar, gyfalafol yr Undeb Ewropeaidd.
‘I’r comiwnyddion, mae’r cwestiwn o wahaniad yr Alban a Chymru yn un o strategaeth chwyldroadol er mwyn uno’r dosbarth gweithiol yn y frwydr yn erbyn y dosbarth llywodraethol Prydeinig, nid o gefnogi neu wrthwynebu undeb tair cenedl Prydain mewn egwyddor” (BRS 2020)
Mae’r agendor ddiffiniol drwy gymdeithas Prydain o ran ei natur, nid yn genedlaethol ond o wahaniaethau dosbarth. Y newidiadau economaidd a gwleidyddol mwyaf trawiadol dros yr hanner canrif ddiwethaf yw’r tŵf mewn anghyfiawnder ac ehangiad dosbarth y biliwnyddion a’r garfan dlodaidd o fewn y dosbarth gweithiol. O fewn Prydain honnir fod hanner cant o deuluoedd yn fwy cyfoethog na 50% y boblogaeth (Equality Trust 2025). Mae biliwnyddion yn berchen 22% o gyfoeth arfaethedig y DG (Equality Trust 2026). Er hyn nid yw cyflogau’r mwyafrif wedi codi ond prin 2% ers 2008 (TUC 2025). Mae costau tai wedi codi’n sylweddol gan greu elw i’r sector fancio a’r landlordiaid preifat tra’n gadael miliynnau mewn perygl o ddigartrefedd neu fyw mewn aneddau o safon israddol (Equality Trust 2025).
Er mwyn gwyrdroi’r enillion wnaed gan y dosbarth parasitig yma bydd angen parhau i hybu cynghrair gwrth-fonopoli i gynnwys y rhai sy’n ymgyrchu yn erbyn imperialaeth yn ei holl agweddau. Wrth adeiladu’r gynghrair gwrth-fonopoli mae’n hanfodol fod mentrau democrataidd poblogaidd yn cael eu dilyn, gan gynnwys ehangu grymoedd Llywodraethau Cenedlaethol a Lleol, nid o leiaf drwy gynnig iddynt rymoedd codi trethi a rhyddid economaidd.
‘Ymhellach, mae’r Blaid Gomiwnyddol yn hawlio rheolaeth ddemocrataidd yn y dalgylch economaidd ac ymlediad democratiaeth i’r gweithle’ (Y Comiwnyddion Cymreig 2022).
Gellir cryfhau grym penderfyniadol Llywodraeth Cymru drwy gyfraniadiau democrataidd pellach yr undebau llafur, gweithwyr a grwpiau cymunedol.
Mae cynnydd mewn grymoedd democrataidd yn angenrheidiol er mwyn canlyn cyfres o bolisiau blaengar ac ailrannol megis adeiladu tai, dod a’r isadeiledd, tir ac ynni dan berchnogaeth gyhoeddus a dileu dylanwad y sector breifat o fewn addysg, y GIG (NHS) a gwasanaethau Llywodraeth Leol. Mae angen i’r Senedd ddatblygu ardaloedd o’r economi er mwyn hybu ein cyrhaeddiad economaidd ac i wrthsefyll y ddibynniaeth ar gwmniau amlwladol a dileu plậ dan-gyflogaeth. Mae technoleg werdd a chynhyrchiant fferyllyddol yn engrheifftiau o ardaloedd o gynnydd. Dylai grymoedd ychwanegol y Senedd gynnwys deddfwriaeth gyflogi, lle bydd angen dileu deddfau gwrth-undebol ac agweddau o bolisiau tramor ac amddiffyn er mwyn galluogi ymbellhad oddi wrth rhyfelgarwch NATO a’r UE. Dylai polisi gwrth-niwclear fod ar flaen y rhestr.
Mae’r cwestiwn o ryddid cenedlaethol felly ynghlwm a’r ymgyrch dros gynnydd ddemocrataidd boblogaidd, gyda’r potensial o fod yn rhan anhepgor o’r gynghrair wrth-fonopoli yng Nghymru. Er mwyn gwireddu hyn bydd yn rhaid i’r fath fudiad fagu dealltwriaeth wrth-imperialaidd gref, gan ddeall fod NATO a’r UE yn rhan o’r strwythur imperialaidd hegemonig. Hefyd bydd angen annog y mudiad annibyniaeth i ddatblygu cynlluniau economaidd ailrannol er mwyn ateb gofynion pobol Cymru.
Gall y Comiwnyddion gydweithio gyda mudiadau cenedlaetholgar er ehangu’r broses ddemocrataidd, wrth annog cynllun ailrannol, tra’n gwrthsefyll y dde eithafol a thra’n hybu heddwch a diddymu’r bygythiad o ryfel.
Rywbryd yn y dyfodol gall achos annibyniaeth ddod yn flaenoriaeth. Bydd angen i Gomiwnyddion benderfynnu a fydd y frwydr ddosbarth yn dwyn budd o natur yr annibyniaeth fydd ar gael, yng Nghymru ac ym Mrhydain, ac a fydd annibyniaeth yn cyfyngu cyrhaeddiad y gynghrair wrth-fonopoli.
Wrth ddychmygu’r fath bosibilrwydd dylid cysidro:
- sut y gellir hawlio nộl y cyfoeth ddygwyd oddiar weithwyr Cymru o Ddinas Llundain a’r cuddfannau treth ar draws trefedigaethau’r goron
- y tebygrwydd o Gymru’n datblygu polisi economaidd tramor annibynnol gwirioneddol all ddatgysylltu oddi wrth sefydliadau a dylanwadau ymelwol a hegenomaidd yr UD a Phrydain gyda’r amcan o sefydlu cyfnewidiadau masnachol, gwyddonol, diwylliannol a thechnolegol led-led y byd
- y posibilrwydd o wireddu annibynnaieth economaidd a chyllidol
- agweddau o strategaeth Amddiffyn wedi eu seilio ar ddiogelwch sifil gwirioneddol

