TRAWSNEWID YR ECONOMI ERBUDD POBL, NID ERELW
Mae angen inni drawsnewid pethau – democrateiddio perchnogaeth o gyfoeth a rhoi’r penderfyniadau yn nwylo gweithwyr a chymunedau. Symud oddi wrth economi sydd dan reolaeth ychydig o bobl hynod gyfoethog tuag at economi a gaiff ei rheoli mewn ffordd ddemocrataidd gan y lliaws...
GRYM YN Y GWEITHLE
Mae gwir ddemocratiaeth yn ymestyn ymhellach na’r bocs pleidleisio; mae’n cwmpasu’r grym y mae pobl sy’n gweithio’n dyheu amdano yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae’r mesurau cadarnhaol yn Neddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn dangos sut gall y Senedd ddeddfu er gwella hawliau gweithwyr. Ond nid oes gennym...
PWERAU CYLLIDOL
Mae ar Lywodraeth Cymru angen y pwerau i godi cyllid a buddsoddi mewn economïau lleol a rhanbarthol. Mae gormod o’n cymunedau ni wedi cael eu hesgeuluso ers degawdau. Ni all hyn barhau. Rhaid i’r Senedd a’r awdurdodau lleol gael mwy o ryddid o’r llywodraeth ganolog a Whitehall fel y gallant...
PWERAU ECONOMAIDD AC AMGYLCHEDDOL
Brwydro yn ôl yn erbyn diweithdra! Yng Nghymru rydym yn gwybod gystal â neb sut mae diweithdra torfol yn difrodi bywydau a chymunedau lleol. Mae’n creu pryder ac ofn, adfyd economaidd, yn rhwygo teuluoedd, yn creu dyled, tlodi, camfaethiad a digartrefdra. Mae pobl yn digalonni wrth golli eu hyder a’u...
GRYM YN Y GYMUNED
Cymunedau glanach, diogelach, cysylltiedig Rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl yn gallu teithio’n gyfforddus, ac mewn modd fforddiadwy, i’w gweithle yn eu cymuned leol neu’n agos iddi. Bydd hyn yn gostwng allyriadau carbon ac yn helpu ein cymunedau i oroesi a ffynnu. Mae angen rhoi terfyn ar yr hen...
GRYM I RIENI A GOFALWYR
Nid yw mathau o waith nad ydynt yn creu elw – megis gofalu am aelodau teulu — yn cael eu gwerthfawrogi fel y dylent yn ein cymdeithas ni. Fel y mae’r pandemig wedi dangos, mae’r un peth yn wir am y gweithwyr hanfodol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Ni...
LLAIS DILYS I BOBL IFANC
Mae Comiwnyddion yn croesawu pleidleisiau a llais pobl ifanc yn yr etholiad yma. Yr etholiadau hyn i’r Senedd fydd y rhai cyntaf lle y caniateir i bobl 16 ac 17 blwydd oed (a dinasyddion gwledydd eraill sy’n preswylio’n gyfreithlon yma) bleidleisio yng Nghymru, a disgwylir i ryw 65,000 o ddinasyddion...
GRYM I GYMRU
O ganlyniad uniongyrchol i Brexit, mae o leiaf 70 o bwerau penderfynu newydd i fod i ddod yn uniongyrchol i’r Senedd o Frwsel. Maent yn cwmpasu meysydd pwysig megis cludiant, ynni, adnoddau dŵr, yr amgylchedd, newid hinsawdd, contractau caffael cyhoeddus, hawliau cyfartal yn y gwaith, bioamrywiaeth mewn amaeth, lles anifeiliaid...








