
Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn condemnio llywodraeth Unol Daleithiau America am fomio Feneswela ac am herwgipio ei Harlywydd Nicolás Maduro a’r Brif Foneddiges Cilia Flores.
Mae’r ymosodiad yn drais ar sofraniaeth Feneswela a chyfraith ryngwladol ill dau, ac yn rhwygo Siarter y Cenhedloedd Unedig yn ddarnau.
Mae’r weithred o fomio dinasoedd Feneswela a llathruddiad Maduro a’i wraig yn dangos natur farbaraidd imperialaeth yr Unol Daleithiau dan arweinyddiaeth yr Arlywydd Donald Trump.
Byth ers i ragflaenydd Maduro, Hugo Chavez, ddyfod i rym gan arwain ystod o newidiadau cymdeithasol blaengar, mae’r Unol Daleithiau wedi cynnal rhyfel economaidd greulon yn erbyn pobl Feneswela, gan achosi gwarchae milain mewn ymgais i rwystro economi Feneswela.
Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod Feneswela’n un o wledydd cyfoethocaf y byd o ran olew. Datgelwyd y gwirionedd y tu ôl i esgus absẃrd Trump bod yr Arlywydd Maduro’n rhyw fath o Bablo Escobar yr unfed ganrif ar hugain, pan honnodd y byddai cwmnïau olew’r Unol Daleithiau’n ysgwyddo’r ddyletswydd o gynnal diwydiant olew Feneswela.
Mae’r Blaid Gomiwnyddol Gymreig yn condemnio ymateb gwasaidd y Prif Weinidog Keir Starmer, sydd yn gwneud dim byd ond tanlinellu rôl y wladwriaeth Brydeinig fel ci bach i imperialaeth gangster yr Unol Daleithiau.
Galwa’r Blaid Gomiwnyddol Gymreig ar Lywodraeth Cymru i gondemnio Unol Daleithiau America am dor-cyfraith drwy fomio Feneswela a herwgipio ei Harlywydd Nicolás Maduro a’r Brif Foneddiges Cilia Flores.
Mae’r Blaid Gomiwnyddol Gymreig hefyd yn galw ar bob un o Aelodau’r Senedd i wrthwynebu ac i gondemnio’r weithred hon o imperialaeth gan yr Unol Daleithiau a fydd ond yn gwneud yr ardal yn llai sefydlog ac yn tanseilio unrhyw wlad sy’n ceisio datblygu polisïau blaengar.
Ar ben hynny, bydd y Blaid Gomiwnyddol Gymreig yn annog ac yn ymuno â phrotestiadau ledled Cymru yn erbyn y weithred farbaraidd hon.
Mae gan y Blaid Gomiwnyddol Gymreig hanes hir o gydsefyll gyda phobloedd America Ladin yn eu hymdrech yn erbyn imperialaeth yr Unol Daleithiau.
Anfonwn ein cefnogaeth gadarn at bobl Feneswela, eu llywodraeth a’n cymrodyr ym Mhlaid Gomiwnyddol Feneswela (PCV).


