PEIDIWCH Â BEIO AR GAM!
Mae beio mudwyr yn hen dwyll. Mae’n ffurf ar fwlio sy’n awgrymu mai mudwyr yw achos yr anhawsterau sy’n ein hwynebu ni i gyd.
NID MUDWYR YW’R ACHOS DROS:
1 …ddiffyg gwaith sicr a chyflog da
Mae’r cwmniau mawr wedi buddsoddi mewn gwledydd eraill neu’n cadw eu helw mewn cyfrifon tramor yn lle buddsoddi yng Nghymru. Mae deddfau gwrth-undebol pob llywodraeth wedi amharu ar allu Undebau Llafur i ymladd dros dal gwell.
2 …brinder tai
Does dim hawl gan Gynghorau Lleol i godi digon o dai cymdeithasol sydd felly’n chwyddo costau tai yn annaturiol. Mae’r banciau’n elwa gan fod angen morgeisi anferthol ar bobl i brynu cartrefi. Tra bo landlordiaid yn gyfoethog ar rhenti swmpus.
3 … filiau hurt egni a gwasanaethau
Y gwir yw bod cwmniau amlgenedl yn ennill elw afresymol ac erchyll ar ein traul ni.
4 … bron dorri’r Gwasanaeth Iechyd
Mae mudwyr yn cyfrannu’n sylweddol at gynnal ein gwasanaeth iechyd er gwaethaf polisiau’r Llywodraeth i beidio a’i gyllido’n ddigonol.
5 …fod trais yn erbyn merched a genethod
Dynion sy’n gyfrifol am drais gan fwyaf. Does dim tystiolaeth ystadegol bod cymunedau mudol fymryn tebycach o droseddu na’r boblogaeth gyffredinol.
6 …ymyrraeth filwrol dramor gan Brydain
Ymosododd Prydain ar Iwgoslafia, Syria, Irac, Palesteina, Libya ac Affganistan yn y cyfnod diweddar. Mae rhyfel yn achosi i bobl anghenus ffoi dramor.
7 … fod diffyg undod
Mae gwladgarwyr go iwan yn gwybod i’r dim mai mewn undod mae nerth. I ymladd dros swyddi gwell, tai a gwasanaethau cyhoeddus mae rhaid inni ddod at ein gilydd. Mae’r rheini sydd am ein gwahanu yn weision i’r cyfoethog a’r pwerus, os y gwyddan nhw neu ddim.
