
Mae’r Comiwnyddion Cymreig yn cefnogi’r datganiad gan nifer o fudiadau ynghylch y ffair arfau i’w chynnal yng Nghasnewydd ar y 3ydd a’r 4ydd o Fedi. Mae’r datganiad llawn i ddilyn. Darllenwch fwy am safiad y Blaid Gomiwnyddol Gymreig ar heddwch a rhyngwladolrwydd.
Mae Atal y Rhyfel Cymru, CND Cymru, Cymdeithas y Cymod, Heddwch ar Waith, Ymgyrch Solidariaeth Palesteina Cymru, Grwpiau Gweithredu Amnesty yng Nghymru a Cymru Cuba wedi cytuno ar y datganiad a ganlyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo Ffair Arfau arfaethedig Llywodraeth Cymru, wedi ei henwi fel uwchgynhadledd Gwytnwch Diogelwch Amddiffyn Cymru, i’w chynnal yng Nghanolfan Gonfensiwn Ryngwladol y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar y 3ydd a’r 4ydd o Fedi 2026.
Mudiadau heddwch a solidariaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo ei Ffair Arfau arfaethedig.
Mae Cymru yn sefyll ar groesffordd wleidyddol ac economaidd. Mae dewis rhwng gwariant fythol uchel ar ‘amddiffyn’, wedi ei seilio ar ledu ofn o eraill a gosod y DU ar droedle ryfelgar gyson, neu i wirioneddol amddiffyn ein cymunedau drwy gartrefi safonol, gofal iechyd a chymdeithasol, bwyd a dŵr glan, cyflogau teg a chreu sicrwydd amgylcheddol a fydd yn ein hamddiffyn rhag niwediau cynhesu byd-eang.
Mae gan Blaid Cymru ymroddiad blaenorol o ddadlau dros yr ail ddewis, nid y cyntaf:
- Yn 2018, sefyll gydag ymgyrchwyr i yrru ffair arfau allan o Gaerdydd.
- Mor ddiweddar a llynedd, pan gollfarnodd y Prif Weinidog presennol Rhun ap Iorwerth gyfundrefn Lafur Eluned Morgan am gynnig £500,000 o arian cyhoeddus Cymru i gwmni arfau oedd o bosib yn cyfrannu tuag at hil-laddiad gyfredol Israel yn erbyn pobol Palesteina.
- Yng nghynhadledd yr hydref Plaid Cymru 2024 pleidleisiodd cynrychiolwyr yn unfrydol dros gynnig brys PARC i weithredu yn erbyn cynllun radar DARC yn Sir Benfro.
Rydym felly yn galw ar Lywodraeth newydd Plaid Cymru i wneud safiad eto gydag ymgyrchwyr dros heddwch ac yn erbyn rhyfel ac i ganslo uwchgynhadledd Gwytnwch Diogelwch Amddiffyn Cymru ar y 3ydd a’r 4ydd o Fedi yng Nghanolfan Gonfensiwn Ryngwladol y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cyd-drefnu’r uwchgynhadledd gyda Business in Focus, ADS Group a General Dynamics Land Systems.
Disgrifir ADS Group fel corff masnachol y diwydiant arfau Prydeinig, yn cynrychioli cwmniau arfau mawrion ac yn hybu buddiannau cynhyrchwyr arfau.
Mae General Dynamics Land Systems yn is-adran o General Dynamics, un o gwmniau arfau mwya’r byd. Mae General Dynamics wedi cyflenwi arfau i fyddin Israel yn ystod yr hil-laddiad cyfredol yn Gaza.
Bydd yr uwchgynhadledd yn cysoni Cymru gyda chynlluniau Llywodraeth y DU o ehangu milwrol ac ymryson arfau byd-eang.
Dadl y Llywodraeth Lafur Gymreig flaenorol oedd y byddai ehangu’r diwydiant arfau yn creu swyddi, tra’n cyfleu cyflogaeth yn y diwydiant amddiffyn fel rhywbeth anhepgor. Er hyn, mae ymddiriaeth ar nifer fach o swyddi risg-uchel mewn cytundebau amddiffyn wedi gadael cymunedau Cymreig yn agored i ansicrwydd, ar fympwy penderfyniadau wnaed yn San Steffan a dadleuon moesol ynghylch allforion arfau.
Dylai sgiliau ein peiriannwyr, ein technegwyr, ein gwyddonwyr a’n gweithwyr gael eu defnyddio ar gyfer cynnyrch o fudd cymdeithasol mewn meysydd fel ynni adnewyddol, trafnidiaeth gyhoeddus, cartrefi fforddiadwy ac ail-adeiladu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae pob punt a fuddsoddir mewn gwariant milwrol yn bunt wedi ei gwastraffu wrth herio’r argyfyngau gwirioneddol sy’n wynebu Cymru, o newid hinsawdd i dlodi i’r prinder cartrefi fforddiadwy a’r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol.
Os bydd Llywodraeth newydd Cymru yn bwrw ‘mlaen gyda’r Ffair Arfau hon, bydd mudiadau heddwch a solidariaeth yn cydlynnu gwrthdystiadau torfol tu allan i’r uwchgynhadledd, i ddatgan yn groch fod pobol Cymru am ddyfodol ar sail Llesiant nid Rhyfel.


