Mynd i'r cynnwys

Ymunwch a’r Blaid Gomiwnyddol

Join the Communist Party leaflet cover


Mae’r Blaid Gomiwnyddol Gymreig wedi lawnsio ymgyrch newydd i hybu trafodaeth o fewn cymunedau ac i ymgysylltu gyda pobol ledled Cymru. Mae ein momentwm, momentwm dosbarth gweithiol Cymru, ar gynnydd.
Mae canghennau’r Blaid Gomiwnyddol yn tyfu gyda chymrodyr newydd yn ymroi i degwch, cyfiawnder ac yn bennaf oll, heddwch.

Mae ein canghennau’n dod yn feithrinfa hanfodol i ddadansoddiad trylwyr o argyfwng gyfredol cyfalafiaeth trwy ddrych Marx-Leniniaeth. Ein canghennau yw’r lle mae trefniadaeth ddosbarth gweithiol yn digwydd, lle mae cyfeillion a chymrodyr yn cwrdd i fynegu solidariaeth ac i weithredu dros newid gwirioneddol a deffroad ein cymdeithas yng Nghymru. Brwydrwn yn erbyn casineb, yn erbyn ecsploitiaeth y gweithwyr gan gyfalafiaeth ac yn erbyn normaleiddio rhyfel. Brwydrwn dros addysg rydd a gwasanaeth iechyd rhydd, dros fwyd a chartrefi i’n cymunedau, dros swyddi diogel a gweddus i bawb.

Dyma alwad agored ar i bawb sydd a diddordeb i ymuno a’r Blaid Gomiwnyddol Gymreig, i’w haddysgu eu hunain ac i ddeall sut y gellir trefnu cymdeithas well drwy strwythur sosialaidd.

Cysylltwch a’r Blaid Gymreig yma:

wales@communistparty.org.uk

Cysylltwch a changen leol yma:

cardiff@communistparty.org.uk
merthyrcynon@communistparty.org.uk
newportvalleys@communistparty.org.uk
northwales@communistparty.org.uk
pontypridd@communistparty.org.uk
swansea@communistparty.org.uk