Mae’r mudiad llafur cyfundrefnol wedi chwarae rhan sylweddol ym mywyd diwydiannol, cymdeithasol, diwyllannol a gwleidyddol Cymru ers canrif a rhagor. Ond mae ei heriau a’i gyfleoedd pennaf o’i flaen o hyd.

Bydd y Blaid Gomiwnyddol yn parhau i weithredu fel grym dros undod a chydweithrediad rhwng ystod eang o fudiadau poblogaidd a democrataidd yng Nghymru.
Fel plaid Farcsaidd y mudiad llafur, mae’n ffurfio ac yn cyflwyno strategaeth ar gyfer cynnydd yng Nghymru ac ar gyfer chwyldro sosialaidd. Mae’r strategaeth hon wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:
Dylai pobl Cymru frwydro i gynyddu i’r eithaf y pwerau a’r adnoddau a ddatganolir i Senedd Cymru a’i thrawsnewid yn senedd go iawn y bobl.
Rhaid i fudiad llafur Cymru achub y blaen ar y broses hon, gyda TUC Cymru cryfach yn graidd iddo ac yn gweithredu’n rym dros undod ar draws pleidiau, mudiadau llafur, a mudiadau blaengar y chwith.
Rhaid i’r chwith a’r mudiad Ilafur ffurfio a chyflwyno strategaeth economaidd a gwleidyddol integredig ar gyfer Cymru sy’n herio ymelwa a phob math o orthrwm, sy’n cryfhau ein sylfaen ddiwydiannol, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn cyfoethogi ein diwylliant ac yn ehangu democratiaeth.
Un flaenoriaeth allweddol yw ennill cefnogaeth ledled Cymru i bolisïau blaengar sy’n herio rheolaeth cyfalaf monopoli yng Nghymru, ac ar hyd a lled Prydain. Dyma’r unig ffordd i drechu bygythiad Reform UK.
Yr hyn sydd ei angen nawr yw synthesis. Mae angen i’r Senedd gael ei thrawsnewid yn senedd rymus sy’n cynnwys ac yn cynnull – nid cynrychioli yn unig – pobl Cymru. Mae angen i TUC Cymru, y Blaid Lafur, Plaid Cymru a mudiadau blaengar eraill ddatblygu ac integreiddio’u polisĩau yn strategaeth economaidd a gwleidyddol amgen ar gyfer Cymru.
Ar draws y chwith gwleidyddol yng Nghymru, gall Darllenwyr Seren y Bore a’i Grwpiau Cefnogwyr weithredu’n fforwm ar gyfer trafodaethau gwleidyddol, yn rym ar gyfer undod y chwith ac yn gyfrwng i hyrwyddo gwerthiant Seren y Bore a mentrau codi arian eraill megis casgliadau mewn cyfarfodydd undebau Ilafur. Mae Seren y Bore, sy’n seiliedig ar y mudiad llafur, yn chwarae rhan werthfawr wrth gyhoeddi erthyglau a threfnu cynadleddau eang ar faterion allweddol.
Bydd y Blaid Gomiwnyddol a’i haelodau yn parhau i wneud cyfraniad nodedig hefyd mewn sawl maes – o wleidyddiaeth ac undebau llafur hyd fywyd diwrylliannol yng Nghymru.
Bydd Plaid Gomiwnyddol Cymru’n defnyddio’r cyfle a ddarperir gan etholiadau i gyflwyno ein hegwyddorion a’n strategaeth nodedig ymhlith trwch y boblogaeth. Gweithiwn hefyd i ethol ymgeiswyr Llafur blaengar ac ymgeiswyr Plaid Cymru blaengar.
Pobl ifanc yw dyfodol ein mudiad. Bydd y Blaid Gomiwnyddol, felly, yn parhau i gefnogi’r broses o gynyddu a gryumso Cynghrair y Comiwnyddion Ifanc yng Nghymru.
Fel comiwnyddion, parhawn yn gadarn ein barn mai comiwnyddiaeth sy’n cynnig gobaith i Gymru a’r byd. Dyna pam y dywedwn:
UNWCH BOBL CYMRU DROS BŴER, DROS GYFIAWNDER CYMDEITHASOL A THROS HEDDWCH!
