Dathlwyd y maer Comiwnyddol Annie Powell dros y penwythnos (6 Mehefin 2025) pan godwyd plac glas er anrhydedd iddi yng Nghwm Rhondda.
Dadorchuddiwyd y plac yng Nghanolfan Gymunedol Soar gan Faer Rhondda Cynon Taf, Sheryl Evans, ym mhentref Penygraig.
Roedd aelodau o gangen Pontypridd y Blaid Gomiwnyddol yn rhan o gynulleidfa amryfal y seremoni.

Etholwyd Annie Powell yn faer comiwnyddol y Rhondda ym 1979, yn fuan wedi i’r geidwadwraig Margaret Thatcher gael ei hethol yn brif weinidog benywaidd cyntaf Prydain.
Dwy fenyw, yn gwneud dau beth am y tro cyntaf erioed, a byd o wahaniaeth rhyngddynt!
Galwyd y digwyddiad yn “sioe fawr o faer comiwnyddol yn cychwyn ar ei swydd yn ystod wythnosau cyntaf llywodraeth Dorïaidd newydd” ac ychwanegodd hwn at wallgofrwydd y cyfryngau – o ganlyniad taflwyd Powell i ganol penawdau rhyngwladol.
Bryd hynny, fe’i canmolwyd yn fyd eang fel y maer comiwnyddol cyntaf erioed i gael ei hethol ym Mhrydain – adroddwyd y stori yn y New York Times hyd yn oed.
Darllenwch ragor am y seremoni i’w dathlu ac am fywyd Annie Powell yn yr erthyglau hyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Seren y Bore: