Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, pob plaid wleidyddol yn y Senedd a phob mudiad gwleidyddol, pob mudiad heddwch, yr undebau llafur ac ymgyrchwyr gwleidyddol i ymrwymo i heddwch drwy gefnogi’r datganiad hwn.
Rydym yn condemnio’r ymosodiad milwrol ffiaidd gan Israel ar Iran pan oedd trafodaethau gyda’r Unol Daleithiau’n parhau ac ar fin cychwyn ar y chweched rownd.
Er bod Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, wedi ymbellhau’r Unol Daleithiau o weithred Israel mae’n dra hysbys na fyddai gweithred ryngwladol mor herfeiddiol wedi bod yn bosib heb gydsyniad yr Unol Daleithiau.
Tra bod y cyfryngau, yn cynnwys y BBC, yn disgrifio’r ymosodiad yn gyrch ar gyfleusterau niwclear Iran mae yno dystiolaeth helaeth bod ardaloedd sifil wedi eu bwrw, targedau nad oedd iddynt natur economaidd na milwrol yn cynnwys ymosodiadau ar y brifddinas, Tehran, a thargedau yn nhaleithiau canolig, gorllewinol a deheuol y wlad.
Awgryma adroddiadau o Iran bod cannoedd o sifiliaid, yn cynnwys plant, wedi eu lladd yn yr ymosodiadau er nid yw’r union niferoedd wedi eu cadarnhau eto.
Amddiffynnwyd y weithred gan wladwriaeth Israel wrth iddynt ddweud mai dyma oedd yr unig opsiwn a oedd yn agored iddynt, er gwaethaf y trafodaethau cyfredol rhwng Iran a’r Unol Daleithiau sydd wedi bod wrthi ers Mawrth 2025. Bu hyd yn oed i wasanaeth cyfrin yr Unol Daleithiau wadu, mor ddiweddar â mis Mawrth eleni, nad oedd sail i honiadau Israel bod cyfundrefn Iran ar fin troi eu gallu niwclear sifil yn arfau.
Mae’n rhaid i ni anfon neges glir at lywodraeth Israel bod y weithred hon yn doriad cywilyddus o safonau rhyngwladol arferol. Mae Israel wedi gallu ymddwyn yn ddigerydd yn erbyn Gasa ac erbyn hyn mae wedi troi ei golygon at bobl Iran. Nid yn unig ydy’r weithred hon yn cythruddo’r Dwyrain Canol ond mae’n fygythiad i heddwch byd-eang.
Rydym yn cefnogi’r alwad i gynnal cyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig er mwyn tawelu’r sefyllfa bresennol ar fyrder.
Rydym yn galw ar lywodraethau Cymru a Phrydain i gefnogi’r alwad ac i gondemnio mewn modd gwbl glir, gweithred unochrog llywodraeth Israel.
Rydym yn gofyn i fudiadau heddwch, mudiadau hawliau dynol a’r undebau llafur led led Cymru a Phrydain i gefnogi’r alwad am drafodaethau er mwyn dod o hyd i ganlyniad heddychlon fydd yn galluogi ailadeiladu’r wlad er budd anghenion argyfyngus pobl Iran.