
28-29 Tachwedd 2025
YMa, Stryd Taff, Pontypridd, CF37 4TS
Gydag etholiadau’r Senedd 2026 ar y gorwel, rydym yn dyst i newidiadau pell-gyrhaeddol yn y byd gwleidyddol Cymreig. Dros y ganrif ddiwethaf mae Cymru wedi bod yn genedl un blaid o dan reolaeth Lafur, ac yn awr ymddengys fod y blaid Lafur honno ar erchwyn dibyn etholiadol. Yn cydfynd a hyn mae tŵf cyflym y blaid Reform UK asgell dde, ben-ben gyda Plaid Cymru yn y polau piniwn. Ar yr un pryd mae argyfwng hygrededd yn wynebu’r Senedd gyda rhai yn trafod yn agored y posibilrwydd o ddileu’r sefydliad yn gyfangwbwl.
Mae’r tair plaid yma mewn cyd-destun ehangach yn cynrychioli datrysiad posib i’r Cwestiwn Cenedlaethol yng Nghymru.
- Cymru gyda hawliau datganoledig o fewn Prydain ffederal
- Cymru annibynnol
- Cymru heb unrhyw hawliau deddfwriaethol dan reolaeth uniongyrchol San Steffan
Tra fod y trydydd dewis yn annerbynniol i unrhyw fudiadau blaengar yng Nghymru, mae’r hinsawdd wleidyddol sydd ohonni yn hawlio ystyriaeth fanwl o’r ddau ddewis cyntaf.
Safbwynt swyddogol y Blaid Gomiwnyddol erioed fu dros undod y cenhedloedd Prydeinig yn erbyn undod y fwrgeisaeth Brydeinig. Adlewyrchir y safbwynt hwn yn y polisi o Ffederaliaeth Flaengar. Er gwaethaf peth llwyddiant cychwynnol yn perswadio elfennau o’r mudiad llafur i dderbyn y fath safbwynt, ni chafodd ei fabwysiadu yn gyffredinol. O fewn triongliad polisi Llafur i’r dde a Plaid Cymru i’r chwith, mae cefnogaeth dros annibyniaeth ar gynydd ar y chwith.
Am y rhesymau hyn teimla Plaid Gomiwnyddol Cymru ei bod yn hen bryd ail ystyried y cwestiwn cenedlaethol yng Nghymru, i ofyn pa ddyfodol sydd i ffederaliaeth flaengar, a beth fyddai gwir oblygiadau annibyniaeth i ddosbarth gweithiol Cymru.
Slogan a glywir yn aml o fewn rhengoedd pro-annibyniaeth yw “Cymru rydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd” a gallwn gymryd yr Iwerddon fel esiampl o wladwriaeth lai ei maint ochr yn ochr a grym Prydain Fawr o fewn yr UE. Tra nad yw Plaid Cymru yn swyddogol yn dadlau dros aelodaeth o NATO, unwaith eto gall yr Iwerddon fod yn esiampl o genedl fechan sydd yn swyddogol yn niwtral ond wedi ei hamgylchynu gan rymoedd NATO ac yn rhan anatod o beiriant rhyfel NATO oherwydd ei safle strategol.
Yn olaf, ystyriwn eto gyfodiad y dde eithafol yng Nghymru. Heb ddadansoddiad trylwyr a gwyddonol o’r cwestiwn cenedlaethol, rydym mewn perygl o’i ildio i’r dde eithafol; nid yw’n ormodiaeth i ddychmygu dadl pro-annibyniaeth ar sail “Cymru i’r Cymry yn unig”. Amlygir hyn yn y gweithgaredd codi baneri diweddar led-led Lloeger, sydd wedi treiddio mewn i Gymru. Yn wir mae rhai elfennau pro-annibyniaeth asgell dde yn cynnig yr union ddadl hon. Mae’n holl bwysig cadw bygythiad hiliaeth asgell dde ar flaen y drafodaeth yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni.
Am yr holl resymau hyn mae Plaid Gomiwnyddol Cymru yn gwahodd elfennau blaengar o bob rhan o’r wlad i Bontypridd i drafod y pwnc ac i ofyn:
“Beth yw dyfodol Cymru?”
