Mynd i'r cynnwys

Datganiad ar y cyd ynghylch Feneswela

Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn croesawu’r undeb a ddangoswyd gan y pedwar sefydliad heddwch a solidariaeth: Atal y Rhyfel Cymru; Cymdeithas y Cymod; CND Cymru a Chymru Ciwba wrth iddynt ddod at ei gilydd i anfon neges gref i’n harweinwyr gwleidyddol Cymreig, i gondemnio’r waredigaeth orfodol a’r ymosodiad ar Feneswela ac i alw am stop ar unwaith ar weithgaredd milwrol gan UDA, ac i ddychwelyd Maduro i’w wlad.

Mae’r Blaid Gomiwnyddol hefyd yn galw am brotestiadau pellach yn erbyn yr act farbaraidd mewn cymunedau ar draws Cymru.

Unwch yn erbyn imperialaeth UDA!
Cydsafwn gyda phobol Feneswela!
Adeiladwn fudiad heddwch!
Bara Nid Bomiau!


Logos y sefydliadau sy'n arwyddo'r datganiad ar Feneswela

Feneswela: Safiad yn erbyn y bomio a’r newid cyfundrefn gan yr UD

Mae ymosodiad di-gynsail UDA ar Feneswela, a herwgipio’r Arlywydd Nicolas Maduro a’i wraig, i wynebu cyhuddiadau di-sail o farchnata cyffuriau yn Efrog Newydd, yn waradwydd yn erbyn y gyfraith ryngwladol a
sofraniaeth gwladwriaethau.

Mae hyn yn cadarnhau mai meddiannu’n haerllug adnoddau gwledydd eraill yw amcan newydd y gyfundrefn herwrol yn Washington – ac y bydd, yn gyson gyda’i Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, yn gweithredu i ddifa pob llywodraeth yn yr America Ladin sy’n dilyn polisi tramor neu gartref annibynnol.

Rhaid condemnio yn gyfangwbl ymgyrch fomio Trump ar Feneswela. Mae herwgipio’r Arlywydd Maduro yn drosedd ryfel. Mae hyn yn dilyn wythnosau pan oedd yr UD yn targedu cychod gan hawlio eu bod yn cludo cyffuriau, yn symud llynges sylweddol i Fộr y Caribi i fygwth Feneswela, ac yn galw am newid cyfundrefn mewn gwlad sydd ers tro wedi dioddef sancsiynnau a mesuriadau llethol o du Washington. Mae Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol ddiweddar yr UD yn amlygu for Trump yn atgyfodi’r ‘Monroe Doctrine’ ac fod imperialaeth haerllug yr UD yn cyfiawnhau ei ymyrraeth yn ‘iard gefn’ America Ladin. Mae ei golygon nid yn unig ar Feneswela ond ar Ciwba hefyd. Mae llywodraeth Feneswela wedi galw ar ei phobol i wrthsefyll y bygythiadau hyn. Mae ei datganiad swyddogol yn hawlio fod yr ymosodiad yn groes i siarter y Cenhedloedd Unedig ac yn fodd o feddiannu adnoddau naturiol y wlad, yn enwedig ei chronfeydd olew.

Tra nad yw gweithredoedd milwrol anghyfiawn o’r fath yn newydd, rydym wedi cyrraedd trobwynt gan fod y twyll o “ymyrraeth ddynolgar” yn enw “rhyddid a democratiaeth” wedi ei ddinoethi’n llwyr. Mae Trump yn cyfaddef yn agored mai cynsail yr ymosodiad hwn oedd cael gafael ar olew Feneswela, gan ddychwelyd at ymosodedd noeth diplomyddiaeth ryfelgar y 19eg ganrif.

Dylai Llywodraeth Cymru a holl Aelodau’r Senedd gondemnio’r herwgipiad a’r ymosodiad fel y weithred ormesol ag ydyw, galw am atal gweithredu milwrol yr UD ar unwaith, a dychwelyd Maduro i’w wlad. Mae mudandod yn gyfystyr a chyfranogaeth yn y weithred hon o drais barbaraidd.

Nid yw ymateb egwan y Prif Weinidog Keir Starmer ond yn tanlinellu sefyllfa’r wladwriaeth Brydeinig fel gwas bach i UDA.Nid hyn wrth gwrs yw’r unig weithred filwrol ddiweddar gan weinyddiaeth Trump, sydd wedi bomio Syria a Nigeria dros yr wythnosau diwethaf ac sydd wedi cynnig cefnogaeth ddiamod i hil-laddiad Israel yn Gaza. Er gwaethaf ei addewid etholidaol o ddiweddu ‘rhyfeloedd am byth’ mae Trump wedi bod wrthi yn hybu rhyfeloedd imperialaidd led-led y byd. Mae’n hen bryd i lywodraeth Prydain ymwrthod a pholisi tramor yr UD a galw am heddwch, nid rhyfel.

Mae Atal y Rhyfel Cymru yn galw am undod llawn gyda pobol Feneswela ac am ddychweliad eu harlywydd. Dim ond pobloedd America Ladin all benderfynnu ar eu ffawd a dewis eu llywodraethau, gyda’r gallu i wneud hynny heb ymyrraeth. Ni ellir cyfiawnhau imperialaeth yr UD yn America Ladin na throseddau Trump.

Mae Atal y Rhyfel Cymru hefyd yn galw am wrthdystio yn erbyn y weithred farbaraidd hon mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Cydsafwn gyda pobol Feneswela!
Adeiladwn fudiad heddwch!
Bara Nid Bomiau!

Tagiau: