Mynd i'r cynnwys

Peidiwch  Beio ar Gam! Taflen newydd o’r Blaid Gomiwnyddol


1 …ddiffyg gwaith sicr a chyflog da
Mae’r cwmniau mawr wedi buddsoddi mewn gwledydd eraill neu’n cadw eu helw mewn cyfrifon tramor yn lle buddsoddi yng Nghymru. Mae deddfau gwrth-undebol pob llywodraeth wedi amharu ar allu Undebau Llafur i ymladd dros dal gwell.

3 … filiau hurt egni a gwasanaethau
Y gwir yw bod cwmniau amlgenedl yn ennill elw afresymol ac erchyll ar ein traul ni.

5 …fod trais yn erbyn merched a genethod
Dynion sy’n gyfrifol am drais gan fwyaf. Does dim tystiolaeth ystadegol bod cymunedau mudol fymryn tebycach o droseddu na’r boblogaeth gyffredinol.

7 … fod diffyg undod
Mae gwladgarwyr go iwan yn gwybod i’r dim mai mewn undod mae nerth. I ymladd dros swyddi gwell, tai a gwasanaethau cyhoeddus mae rhaid inni ddod at ein gilydd. Mae’r rheini sydd am ein gwahanu yn weision i’r cyfoethog a’r pwerus, os y gwyddan nhw neu ddim.

Tagiau: