Grym go iawn i Bobl Cymru
Maniffesto Dros Ddyfodol Teg, Sosialaidd a Gwyrdd

23ain o Fawrth 2026, 11.00
Canolfan Reolaeth Bangor,
Ysgol Fusnes Bangor,
Ffordd y Coleg,
Bangor, Gwynedd LL57 2DG

24ain o Fawrth 2026, 11.00
Urdd Gwneuthurwyr Cymru
Crefft yn y Bae
Y Flourish,
Rhodfa Lloyd George,
Caerdydd CF10 4QH

Bydd y Blaid Gomiwnyddol Gymreig yn lasio ei maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd 2026 mewn digwyddiadau yng ngogledd a de Cymru.
Dydd Llun 23ain o Fawrth 11am
Canolfan Reolaeth Bangor, Ysgol Fusnes Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd LL57 2DG
Dydd Mawrth 24ain o Fawrth 11am
Urdd Gwneuthurwyr Cymru, Crefft yn y Bae, Y Flourish, Rhodfa Lloyd George, Caerdydd CF10 4QH
Meddai Dominic MacAskill, Ysgrifennydd Cenedlaethol y Blaid Gomiwnyddol Gymreig:
Cri yw Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, yn galw ar bawb i weithredu, i frwydro dros eich cymuned ac i newid popeth. Cyflwyna’r maniffesto gynllun deg pwynt er mwyn gosod y seilwaith ar gyfer Cymru sosialaidd, deg a gwyrdd.
Ychwanegodd Mr MacAskill:
Bwriad y Blaid Gomiwnyddol yw defnyddio’r maniffesto hwn i ysbrydoli pobl o fewn ein cymunedau, ein hundebau llafur ac o fewn mudiadau gwleidyddol. Hoffem ddangos i bobl fod Cymru arall yn bosib, un lle rhennir y cyfoeth, lle mae yno wir ddemocratiaeth, lle gwarchodir ein hamgylchfyd a rhoddir anghenion pobl o flaen trachwant preifat.
Yn ystod lansiad maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol ar gyfer etholiadau’r Senedd 2026, bydd cyfle i glywed trosolwg o’r maniffesto a holi’r prif ymgeiswyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r Blaid Gomiwnyddol wedi ymgeisio ym mhob etholiad Cynulliad Cenedlaethol a Senedd ers i Gymru ddatganoli ac yn 2026 bydd y Blaid yn ymgeisio mewn dwy etholaeth: Bangor, Conwy, Môn a Chaerdydd Penarth.
Prif ymgeisydd Plaid Gomiwnyddol Bangor, Conwy, Môn:
Mae Jaime Fitter yn ymgyrchydd cymunedol a gwleidyddol ifanc. Fe ymgyrchodd yn erbyn cau campws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed a gwrthwynebodd golled cyfleoedd addysgol i bobl Cymru. Ers hynny, mae Jaime wedi ymgyrchu yn erbyn rhyfeloedd tramor ac wedi gwrthwynebu ymyrraeth y wladwriaeth Brydeinig yn nhroseddau rhyfel llywodraeth Israel a’r hil-laddiad ym Mhalestina. Mae Jaime hefyd wedi bod yn flaenllaw yn ei safiad ochr yn ochr â chymunedau lleol, wrth iddynt frwydro yn erbyn cynnydd y dde eithafol yng Nghymru.
Prif ymgeisydd Plaid Gomiwnyddol Caerdydd Penarth:
Ganed Robert Griffiths yng Nghaerdydd ac y mae wedi byw yn Llanrhymni, y Rhath a’r Sblot. Mae Robert wedi ymgeisio mewn etholiadau lleol, dros Gymru, dros lywodraeth San Steffan a llywodraeth yr Undeb Ewropeaidd. Tan yn ddiweddar Robert oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol, ac mae wedi ymgyrchu dros wasanaethau cyhoeddus, hawliau yn y gweithle, addysg Gymraeg; ac yn erbyn mesurau cyni, y system brydles, hiliaeth a Llosgydd Caerdydd. Mae Robert hefyd yn awdur nifer o gyhoeddiadau am yr economi, hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Argraffwyd gan Cardiff Bay Print, Uned T203, Tŷ Titan, Canolfan Fusnes Bae Caerdydd, Heol Titan, Caerdydd, CF24 5BS. Argraffwyd ar ran y Blaid Gomiwnyddol, Llawr Uchaf, Tŷ Ruskin, 23 Heol Coombe, Croydon CR0 1BD.
