Mynd i'r cynnwys

Senedd elections 2026 poster

Etholiad Senedd 2026

Sefydlwyd y Blaid Gomiwnyddol ym 1920, ac mae’r blaid wedi perthyn i’r dosbarth gweithiol o’r cychwyn cyntaf, mae hi’n blaid sydd wedi ei gwreiddio yn nhraddodiadau solidariaeth ac ymgyrchu radicalaidd Cymru.

Trefnodd y blaid orymdeithiau newyn a brwydrodd yn erbyn y ffasgwyr ledled Cymru yn y 1930au. Cydsafodd gyda’r glowyr a gweithwyr y sector gyhoeddus wrth iddynt ymwrthod a brwydr Thatcher yn erbyn ein cymunedau dosbarth gweithiol.

Mae’r Blaid Gomiwnyddol wedi bod ar ochr y dosbarth gweithiol o’r dechrau, yn herio hiliaeth, ymraniad a rhyfel; yn ymgyrchu dros berchnogaeth gyhoeddus, heddwch a sosialaeth; ac yn meithrin mudiad sydd â’r gallu i ennill gwir rym i bobl Cymru.

Darllen y Maniffesto

Grym a Democratiaeth

Mae democratiaeth go iawn yn golygu pleidleisio bob hyn a hyn o flynyddoedd. Golyga bod gennym y gallu i ddweud ein dweud ynghylch y penderfyniadau beunyddiol sy’n effeithio ar ein bywydau yn y gwaith, o fewn ein cymunedau ac ar hyd y wlad.

Economi Wedi ei Drefnu er Budd y Bobl, Nid er Elw

Mae Cymru wedi dioddef o ddegawdau o ddad-ddiwydiannu, ansefydlogrwydd ac esgeulustod. Mae anrhefn y farchnad a’n dibyniaeth ar gorfforaethau rhyngwladol wedi methu ein cymunedau. Mae angen i ni gynllunio mewn ffordd ddemocrataidd ac mae angen perchnogaeth gyhoeddus arnom.

Cymru Werdd ar Gyfer Cenedlaethau’r Presennol a’r Dyfodol

Mynna’r argyfwng hinsawdd ein bod yn gweithredu ar fyrder. Mynna’r Comiwnyddion bolisïau sy’n gwarchod gweithiwyr, ein cymunedau a’r blaned.

Iechyd, Gofal a Lles

Mae iechyd, gofal cymdeithasol a gofal i’r henoed yn wasanaethau cyhoeddus; nid ydynt yn nwyddau i’w gwerthu.

Parchu Gofal, Rhoi Diwedd ar Dlodi

Mae gwaith gofal cyflogedig ac anghyflogedig, yn cynnal ein cymdeithas ac eto ni roir y pwys priodol ar y gwaith hwn, sydd yn amlach na heb yn cael ei wneud gan fenywod.

Mae Cartref yn Hawl Dynol

Mae pob un person yn haeddu cartref diogel a fforddiadwy. Mae’n rhaid bod tai yn gwasanaethu anghenion ein pobl, nid elw hapfasnachwyr a’r cyfoethog segur.

Addysg, Pobl Ifainc ac Addysg Gydol Oes

Dylai addysg ddatgloi potensial dynol ryw nid atgyfnerthu anghydraddoldeb.

Cefnogi’r Gymraeg a’n Diwydiannau Celfyddydol

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Serch hynny, mae’r cyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio’r iaith wedi eu cyfyngu gan fuddsoddiad cyhoeddus annigonol a diffyg hawliau cryf ac amddiffyniadau ehangach ar draws yr economi.

Nawdd Teg a Chyfiawnder Economaidd

Mae angen y grym a’r adnoddau ar Gymru i fuddsoddi yn ei dyfodol ac i ailddosbarthu cyfoeth yn deg.

Rhyngwladoldeb a Heddwch

Rydym yn sefyll dros heddwch, cydweithrediad a solidariaeth ryngwladol. Ni ddylid fyth ddefnyddio Cymru i wasanaethu imperialaeth Brydeinig a’r Unol Daleithiau, rhyfel ac ecsploetiaeth.

Cyfarfod gyda’n hymgeiswyr

Wedi cystadlu pob etholiad cenedlaethol yng Nghymru, mae Plaid Gomiwnyddol Cymru yn sefyll mewn dwy sedd yn etholiadau’r Senedd 2026.

Robert Griffiths

Robert Griffiths

Caerdydd Penarth

Ganed Robert Griffiths yng Nghaerdydd ac y mae wedi byw yn Llanrhymni, y Rhath a’r Sblot. Mae Robert wedi ymgeisio mewn etholiadau lleol, dros Gymru, dros lywodraeth San Steffan a llywodraeth yr Undeb Ewropeaidd. Tan yn ddiweddar Robert oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol, ac mae wedi ymgyrchu dros wasanaethau cyhoeddus, hawliau yn y gweithle, addysg Gymraeg; ac yn erbyn mesurau cyni, y system brydles, hiliaeth a Llosgydd Caerdydd. Mae Robert hefyd yn awdur nifer o gyhoeddiadau am yr economi, hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Jaime Fitter

Jaime Fitter

Bangor Conwy Môn

Mae Jaime Fitter yn ymgyrchydd cymunedol a gwleidyddol ifanc. Fe ymgyrchodd yn erbyn cau campws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed a gwrthwynebodd golled cyfleoedd addysgol i bobl Cymru. Ers hynny, mae Jaime wedi ymgyrchu yn erbyn rhyfeloedd tramor ac wedi gwrthwynebu ymyrraeth y wladwriaeth Brydeinig yn nhroseddau rhyfel llywodraeth Israel a’r hil-laddiad ym Mhalestina. Mae Jaime hefyd wedi bod yn flaenllaw yn ei safiad ochr yn ochr â chymunedau lleol, wrth iddynt frwydro yn erbyn cynnydd y dde eithafol yng Nghymru.

Apêl ariannol yr etholiad

Cyfrannwch tuag at apêl ariannol y Blaid Gomiwnyddol. Galluogwch lais y Blaid i’w glywed led-led Cymru.

Poster etholiadol