Mynd i'r cynnwys

Cyngres y Blaid Gomiwnyddol 2026

Prepare for Congress banner

Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn blaid ddemocrataidd lle cyrhaeddir cytundeb drwy drafodaeth fanwl ar bynciau o safbwynt egwyddorion Marxiaeth- Leniniaeth. Cynhelir Cyngres Plaid Gomiwnyddol Genedlaethol ymhob un o genhedloedd Prydain bob dwy flynedd. Mae’r Gyngres Gymreig i’w chynnal ar ddiwedd mis Tachwedd 2026. Yn ystod y Gyngres bydd cynrychiolwyr o ganghennau’r Blaid yng Nghymru yn cwrdd er mwyn:

  • Trafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwireddu polisi cenedlaethol Cymru.
  • Ystyried penderfyniadau wnaed gan gorff aruchaf y Blaid sef y Gyngres Brydeinig.
  • Ethol aelodau o’r Blaid ar gyfer y Gweithgor Cymreig am y ddwy flynedd ganlynol.

Cyn y Gyngres mae’r Gweithgor Cymreig yn cyhoeddi cynnig drafft i’w drafod yn y Gyngres. Rhennir y cynnig isod.


Fel rhan o’r Gyngres bydd Darlith Goffa flynyddol Gwyn Alf Williams yn cael ei thraddodi gan Robert Griffiths, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol

2026 Gwyn Alf Williams Memorial Lecture Flyer page 1
2026 Gwyn Alf Williams Memorial Lecture Flyer page 2