Mynd i'r cynnwys

Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod pawb, beth bynnag eu gallu, yn gallu defnyddio ein gwefan yn hyderus ac yn rhwydd.

Ein Hymroddiad i Hygyrchedd

Mae’r wefan hon wedi ei datblygu gyda’r amcan o gyrraedd safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y Wê (WCAG) 2.1 AA, a byddwn yn ymdrechu i gyrraedd safon uwch lefel AAA lle’n bosib. Mae’r canllawiau rhyngwladol hyn yn anelu at wneud cynnwys yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr anabl, gan gynnwys rhai sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol, ac i gynnig defnydd gwell i bob ymwelydd – gan gynnwys y rhai ar gyswllt rhyngrwyd arafach neu ar ddyfais hÿn.

Dylech Allu:

  • Chwyddo hyd at 300% heb golli cynnwys oddi ar y sgrîn.
  • Ymweld a’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio’r allweddell.
  • Ymweld a’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
  • Wrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrîn.
  • Gyrraedd cynnwys gan ddefnyddio arddangosiad Braille neu ddyfais gynorthwyol gyffelyb.

Os byddwch angen cymorth i addasu eich dyfais neu borwr, mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich cynefin digidol yn haws i’w ddefnyddio: https://abilitynet.org.uk

Gwelliannau Ar Waith

Rydym yn gweithio’n gyson i wella hygyrchedd ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys:

  • Defnyddio sgemau lliw uwch-gyferbynniol a llunweddau eglur.
  • Sicrhau fod ffontiau yn ddarllenadwy a maint y llythrennau’n gyfnewidiol.
  • Sicrhau fod yr elfennau cliciadwy o faint digonol ac heb fod yn rhy agos at ei gilydd.
  • Cysidro hygyrchedd yn ein holl waith dylunio, cynnwys a phenderfyniadau arweddol.
  • Rhannu’r arferion hygyrchedd gorau gyda’n holl gyfranwyr.

Addasrwydd y Porwr

Mae’r wefan yn gwneud y gorau o fersiynnau diweddaraf y porwyr canlynol:

  • Google Chrome
  • Mozilla Firefox
  • Apple Safari
  • Microsoft Edge

Os oes problemau, gwnewch yn siwr fod eich porwr yn gymwys a’r fersiwn ddiweddaraf.

Cais am Gynnwys mewn Fformat Hygyrch

Os ydych angen gwybodaeth o’r wefan mewn fformat wahanol (e.e. print mawr, clyweled, darllen hawdd, Braille, neu iaith amgen) cysylltwch a gweinyddwr y wefan ar: wales@communistparty.org.uk

Cofnodi Trafferthion Hygyrchedd

Byddwn yn croesawu adborth ar hygyrchedd ein gwefan. Os y profwch unrhyw anhawsterau neu sylwi ar gynnwys nad yw’n hygyrch, rhowch wybod trwy e-bost. Gwnawn ein gorau i ddatrus unrhyw broblemau yn brydlon.

Os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu a’r Equality Advisory and Support Services (EASS): https://www.equlityadvisoryservice.com