
Ym mis Mehefin eleni lawnsiodd Pwyllgor Gweithredol y Blaid Gomiwnyddol ei Apêl Ciwba 26 gan osod targed heriol i genhedloedd a rhanbarthau’r Blaid i godi £26,000, tuag at gronfa Cuba Vive Ymgyrch Solidariaeth Ciwba, erbyn y 26ain o Orffennaf 2026. Gosodwyd targed i ganghennau Cymreig y Blaid Gomiwnyddol o £1,800 i’w godi o fewn cyfnod o ddau fis.
Gan ymateb yn gyflym, aeth y cymrodyr ati i drefnu nifer o weithgareddau er mwyn codi arian ac mewn cyfnod byr llwyddwyd i dorri drwy’r targed gan godi £2,260. Roedd cyfraniad y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru yn un sylweddol tuag at lwyddiant Apêl Ciwba 26, a wireddodd gyfanswm o £32,000 led-led Prydain. Llongyfarchiadau i’r cymrodyr a drefnodd, a weithredodd ac a gyfrannodd i’r digwyddiadau codi arian.
Bydd yr arian yn cyflenwi adnoddau i bobol Ciwba wrth iddynt barhau i wrthsefyll imperialaeth yr UD a’r blocậd anghyfreithlon sydd a’r bwriad o newynnu’r gwrthryfel. Bydd Comiwnyddion Cymru yn parhau i gydweithio gyda mudiadau lleol i gefnogi Ciwba a hybu ymwybyddiaeth o’r ymgyrch yn y drafodaeth wleidyddol gyfamserol.
Hasta la victoria siempre!



