Mynd i'r cynnwys

Brwydr Maes De Winton – Dathliad 90 mlynedd

No pasaran

13eg o Fehefin 2026 – o 12:30pm
Clwb Cambrian Colliery (NUM),
Tonypandy, CF40 2ES

Cynhelir digwyddiad yn Nhonypandy, Cwm Rhondda, ar ddydd Sadwrn y 13eg o Fehefin 2026 i ddathlu 90 mlwyddiant pennod arwyddocaol yn hanes y dref – Brwydr Maes de Winton.

Ar yr 11eg o Fehefin 1936 danfonodd Oswald Mosley, arweinydd Undeb Prydeinig y Ffasgwyr, ei gynrychiolwyr mewn i Donypandy er mwyn ceisio hawlio’r diriogaeth. Cafodd y ‘crysau duon’ eu hymlid o’r dref gan dorf o ddynion a menywod lleol, 6,000 mewn nifer, a fu’n dathlu eu buddugoliaeth trwy ganu’r anthem gomiwnyddol ‘Y Faner Goch’.

Mae’r dathliad eleni am dalu gwrogaeth i ddewrder ac ymroddiad y rhai gymerodd ran ym Mrwydr Maes de Winton ac i ganolbwyntio hefyd ar y frwydr barhaol yn erbyn ffasgaeth yng Nghwm Rhondda, yng Nghymru a thu hwnt. Cynhelir y digwyddiad yn y Clwb Cambrian Colliery (NUM) yn Nhonypandy ar brynhawn Sadwrn y 13eg o Fehefin o 12:30yp ymlaen. Dadorchuddir plac glas gan Gyngor RCT.

Y siaradwyr ar y diwrnod fydd Alex Gordon o’r Blaid Gomiwnyddol, Laura Doel o TUC Cymru, Peter Harris ac Alan Warren o IB Cymru, AS Plaid Cymru y Rhondda Alun Cox a’r cyn Aelod Seneddol Beth Winter. Bydd y Cor Cochion yn canu caneuon mewn cadernid a bydd yno stondinau, gwerthiant llyfrau ac Arddangosfa’r Brigadau Rhyngwladol.

Maes De Winton 2026
Tagiau: