
Dydd Llun 10fed Awst
Clwb Coffi,
121 Stryd Dunraven, Tonypandy, CF40 1AS
Ganed Harry Dobson yn Nhonypandy, Cwm Rhondda. Yr oedd yn aelod o’r Blaid Gomiwnyddol ac yn undebwr llafur. Bu’n ymladd ym Mrwydr Maes de Winton yn erbyn crysau duon Moseley ac aberthodd ei fywyd yn ymladd yn erbyn ffasgaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen fel aelod o’r Brigadau Rhyngwladol. Yn arwr dosbarth gwirioneddol o’r cymoedd.
Dadorchuddiwyd plac glas ar y 10fed o Awst yn Nhonypandy i goffhau Harry Dobson. Gosodwyd y plac ar fur caffi Clwb Coffi yn 121 Stryd Dunraven sef lleoliad ei eni ym 1907.
Trefnwyd dadorchuddio’r plac gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyda dirprwy arweinydd y Cyngor y cynghorydd Webber yn cyflwyno’r brif araith ac yn tynnu’r gorchudd i ddadlennu plac Harry Dobson.
Roedd aelodau de Cymru o’r Blaid Gomiwnyddol yn bresennol yn y digwyddiad gan ddosbarthu copiau o Seren y Bore ac yn atgoffa pobol o hanes y cymoedd a phwysigrwydd syniadaeth ddosbarth gweithiol.
Darllenwch fwy am Harry Dobson a’r plac glas mewn erthygl gan Guto Davies, ysgrifennydd cangen Pontypridd o’r Blaid Gomiwnyddol, ar gyfer Seren y Bore.

