
Y Blaid Gomiwnyddol
The Communist Party



GRYM YN Y GWEITHLE
Mae gwir ddemocratiaeth yn ymestyn ymhellach na’r bocs pleidleisio; mae’n cwmpasu’r grym y mae pobl sy’n gweithio’n dyheu amdano yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae’r mesurau cadarnhaol yn Neddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn dangos sut gall y Senedd ddeddfu er gwella hawliau gweithwyr. Ond nid oes gennym y grym eto yng Nghymru… Darllen Rhagor »GRYM YN Y GWEITHLE...
Darllen mwyPWERAU CYLLIDOL
Mae ar Lywodraeth Cymru angen y pwerau i godi cyllid a buddsoddi mewn economïau lleol a rhanbarthol. Mae gormod o’n cymunedau ni wedi cael eu hesgeuluso ers degawdau. Ni all hyn barhau. Rhaid i’r Senedd a’r awdurdodau lleol gael mwy o ryddid o’r llywodraeth ganolog a Whitehall fel y gallant godi cyllid ar log isel… Darllen Rhagor »PWERAU CYLLIDOL...
Darllen mwyPWERAU ECONOMAIDD AC AMGYLCHEDDOL
Brwydro yn ôl yn erbyn diweithdra! Yng Nghymru rydym yn gwybod gystal â neb sut mae diweithdra torfol yn difrodi bywydau a chymunedau lleol. Mae’n creu pryder ac ofn, adfyd economaidd, yn rhwygo teuluoedd, yn creu dyled, tlodi, camfaethiad a digartrefdra. Mae pobl yn digalonni wrth golli eu hyder a’u hurddas. Tanseilir ymddiriedaeth a chydgefnogaeth… Darllen Rhagor »PWERAU ECONOMAIDD AC AMGYLCHEDDOL...
Darllen mwy


